ILM Level 3 - Certificate in Leadership and Management
A Level
In Rhos-On-Sea
Description
-
Type
A Level
-
Location
Rhos-on-sea (Wales)
-
Start date
Different dates available
Mae'r Dystysgrif Lefel 3 mewn Arwain a Rheoli'n ddelfrydol i unigolion sy'n ysgwyddo cyfrifoldebau rheoli ond nad ydynt wedi cael hyfforddiant ffurfiol, ac sydd o ddifrif ynghylch datblygu eu medrau. Mae'n arbennig o addas i arweinwyr tîm sydd am gael dyrchafiad i'r lefel reoli nesaf, ac i reolwyr y mae gofyn iddynt arwain pobl drwy newid sefydliadol, toriadau cyllidebol neu sefyllfaoedd anodd eraill. Gallwch ddewis astudio naill ai yn ein campws ym Mangor neu Llandrillo-yn-rhos, neu yn y Ganolfan Rheolaeth ym Mhrifysgol Bangor, Abergele, Llangefni, Lleoliad Cymunedol. O’ch safbwynt chi, manteision dilyn y cwrs hwn yw: Datblygu'ch sgiliau arwain gan ddefnyddio'ch gwybodaeth, eich gwerthoedd a'ch cymhellion eich hun O safbwynt eich cyflogwr, manteision dilyn y cwrs hwn yw: Canlyniadau mesuradwy: mae'r asesu yn y gweithle'n sicrhau y caiff y sgiliau newydd eu trosglwyddo'n effeithiol i'ch busnes. O dan Brosiect SEE, dyma'r ffioedd a godir am y cwrs: Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol. Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond bydd y rhai a fydd yn dilyn y rhaglen yn: Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn: Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn: Aseiniad seiliedig ar waith (Deall Arloesedd a Newid a Chynllunio ar gyfer Newid) – Pwrpas yr uned hon yw gweld faint yr ydych yn ei wybod a'i ddeall am arloesedd a newid a'r ffactorau a allai ei gwneud yn ofynnol i'ch sefydliad newid, a nodi newid y mae angen ei wneud yn y gweithle ac a fydd o fudd i'r sefydliad. Deall rheoli perfformiad - Pwrpas yr uned hon yw eich galluogi i ddeall gwerth technegau rheoli perfformiad a sut i'w cymhwyso mewn ffordd deg a gwrthrychol. Deall dulliau cyfathrebu a Rhoi cyflwyniadau a chyfarwyddiadau – Yn y dasg hon, mae gofyn i chi gynllunio a rhoi cyflwyniad er mwyn dangos eich dealltwriaeth o'r broses gyfathrebu, y prif ddulliau cyfathrebu a sut i'w defnyddio yn y gweithle . Byddwch yn asesu'ch sgiliau cyfathrebu'ch hun ac yn nodi meysydd...
Facilities
Location
Start date
Start date
About this course
Dysgu amrywiaeth o sgiliau rheoli pwysig
Defnyddio sgiliau newydd yn eich swydd
Gwella'ch gallu i arwain
Cymell ac ennyn diddordeb timau, a rheoli cysylltiadau'n hyderus
Reviews
Subjects
- Management
- Leadership
- Team Training
- IT Management
- Skills and Training
Course programme
Cyflwyniad:
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
- Darlithoedd
- Gwaith grŵp
- Ymarferion chwarae rôl
- Cwisiau
- Cyflwyniadau
- Sesiynau yn y coleg
- Astudio personol
Asesiad:
Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Aseiniadau seiliedig ar waith
- Cyflwyniadau llafar
- Adolygiadau adfyfyriol
Aseiniad seiliedig ar waith (Deall Arloesedd a Newid a Chynllunio ar gyfer Newid) – Pwrpas yr uned hon yw gweld faint yr ydych yn ei wybod a'i ddeall am arloesedd a newid a'r ffactorau a allai ei gwneud yn ofynnol i'ch sefydliad newid, a nodi newid y mae angen ei wneud yn y gweithle ac a fydd o fudd i'r sefydliad.
Deall rheoli perfformiad - Pwrpas yr uned hon yw eich galluogi i ddeall gwerth technegau rheoli perfformiad a sut i'w cymhwyso mewn ffordd deg a gwrthrychol.
Deall dulliau cyfathrebu a Rhoi cyflwyniadau a chyfarwyddiadau – Yn y dasg hon, mae gofyn i chi gynllunio a rhoi cyflwyniad er mwyn dangos eich dealltwriaeth o'r broses gyfathrebu, y prif ddulliau cyfathrebu a sut i'w defnyddio yn y gweithle. Byddwch yn asesu'ch sgiliau cyfathrebu'ch hun ac yn nodi meysydd y mae gofyn eu datblygu.Yn olaf, dylech werthuso effeithiolrwydd eich cyflwyniad a defnyddio'r adborth a gasglwyd i ganfod meysydd y mae gofyn eu datblygu.
 
ILM Level 3 - Certificate in Leadership and Management