ILM Level 3 - Diploma in Leadership and Management

A Level

In Rhos-On-Sea

Price on request

Description

  • Type

    A Level

  • Location

    Rhos-on-sea (Wales)

  • Start date

    Different dates available

Mae'r Diploma Lefel 3 mewn Arwain a Rheoli'n ddelfrydol i unigolion sy'n ysgwyddo cyfrifoldebau rheoli ond nad ydynt wedi cael hyfforddiant ffurfiol, ac sydd o ddifrif ynghylch datblygu eu medrau. Mae'n arbennig o addas i arweinwyr tîm sydd am gael dyrchafiad i'r lefel reoli nesaf, ac i reolwyr y mae gofyn iddynt arwain pobl drwy newid sefydliadol, toriadau cyllidebol neu sefyllfaoedd anodd eraill. Gallwch ddewis astudio naill ai yn ein campws ym Mangor, neu yn y Ganolfan Rheolaeth ym Mhrifysgol Bangor. Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond bydd y rhai a fydd yn dilyn y rhaglen yn: Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol. Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn: Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn: Os gwnewch gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch fynd ymlaen i ddilyn cwrs pellach neu wneud cynnydd yn eich gwaith. Os ydych eisoes yn rheolwr, bydd y cwrs yn eich helpu i fod yn rheolwr effeithiol ac effeithlon. Byddwch yn datblygu’ch arferion proffesiynol ac mae'n bosib y gallwch anelu at gael dyrchafiad yn rheolwr canol. Yn addysgol, y cam rhesymegol nesaf fyddai cwblhau Dyfarniad Lefel 4 yr ILM mewn Arwain a Rheoli. Bydd y dyfarniad hwn yn eich paratoi i ysgwyddo cyfrifoldebau rheolwr canol. Wedyn, gallech fynd ymlaen i ddilyn rhaglen Dyfarniad, Tystysgrif a Diploma Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli a gynigir yng Ngrŵp Llandrillo Menai.

Facilities

Location

Start date

Rhos-On-Sea (Conwy)
See map
Llandudno Road, LL28 4HZ

Start date

Different dates availableEnrolment now open

About this course

Gweithio fel rheolwyr llinell gyntaf neu'n awyddus i gael gwaith fel rheolwyr
Meddu ar Sgiliau Sylfaenol, Llythrennedd a Rhifedd digonol er mwyn gallu elwa i'r eithaf o’r rhaglen
Cael cefnogaeth eu cyflogwyr, gyda neu heb nawdd
Cwblhau modiwlau'r Dyfarniad a'r Dystysgrif Lefel 3 yn rhan o'r Diploma, os yw hynny'n berthnasol.

Questions & Answers

Add your question

Our advisors and other users will be able to reply to you

Who would you like to address this question to?

Fill in your details to get a reply

We will only publish your name and question

Reviews

Subjects

  • Management
  • Leadership
  • IT Management
  • Skills and Training

Course programme

Cyflwyniad:

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd
  • Gwaith grŵp
  • Ymarferion chwarae rôl
  • Cwisiau
  • Cyflwyniadau

Asesiad:

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Aseiniadau seiliedig ar waith
  • Adroddiadau rheoli
  • Cyflwyniadau llafar
  • Adolygiadau adfyfyriol


 

ILM Level 3 - Diploma in Leadership and Management

Price on request