Light Vehicle Maintenance and Repair Level 3
A Level
In Rhos-On-Sea
Description
-
Type
A Level
-
Location
Rhos-on-sea (Wales)
-
Start date
Different dates available
Ydych chi’n gobeithio dilyn gyrfa yn y sector cerbydau modur neu drafnidiaeth? Ydych chi eisiau sgiliau uwch ym maes cynnal a chadw a thrwsio cerbydau ysgafn? Mae'r cwrs hwn yn adeiladu ar eich arbenigedd technegol ac yn eich paratoi ar gyfer y diwydiant. Mae'n eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau uwch ac ennyn cymhwyster lefel 3. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cwblhau cwrs Cynnal a Chadw Cerbydau Ysgafn Lefel 2 (neu gymhwyster cyffelyb) neu yn uniongyrchol o TGAU. Mae Cyngor Sgiliau'r Sector (SSC) wedi cymeradwyo’r cymhwyster gan sicrhau ei fod yn bodloni gofynion ansawdd y diwydiant. Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn: Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol: Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau yn y diwydiant cerbydau modur. O ganlyniad i ddatblygiadau technegol, mae cwmnïau ym maes cynhyrchu, manwerthu, dosbarthu, gwasanaethu a thrwsio wedi damwain wastad yn chwilio am bobl ifanc i'w cyflwyno i'r diwydiant hwn sy'n newid o hyd. Bydd gennych sgiliau arbennig ym maes cynnal a chadw cerbydau ysgafn ac yn barod i weithio fel Technegydd Cerbydau. Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o gyrsiau addysg uwch yng Ngrŵp Llandrillo Menai. Gallech ymgeisio am Brentisiaeth Fodern neu fynd ymlaen i gyflogaeth neu astudio ar gyfer NVQ lefel 3 ar sail rhyddhau am ddiwrnod.
Facilities
Location
Start date
Start date
About this course
Diploma Lefel 2 mewn pwnc perthnasol, yn cynnwys TGAU gradd D neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af)
Cyfweliad
Reviews
Subjects
- Vehicle Maintenance
- Technology
- Industry
- Skills and Training
Course programme
Cyflwyniad:
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
- Arddangosiadau ymarferol
- Tasgau realistig
- Darlithoedd i ddatblygu gwybodaeth greiddiol
- Aseiniadau
- Dysgu ar-lein
- Ymweliadau â sioeau diwydiant neu fasnach
- Lleoliad gwaith yn y diwydiant am bythefnos
Asesiad:
Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:
- Asesiad ymarferol mewnol
- Asesiad ar-lein
- Cwestiynau llafar
- Cwestiynau ysgrifenedig
- Taflenni tasg byr i ddysgwyr i’w lenwi’n annibynnol
- Portffolios ar gyfer unedau Sgiliau Gweithio a Pheirianneg - Weldio a Ffabrigo
 
Light Vehicle Maintenance and Repair Level 3