Foundation Degree (FdSc) Sport Science (Sports Coaching)
Course
In Rhos-On-Sea
Description
-
Type
Course
-
Location
Rhos-on-sea (Wales)
-
Start date
Different dates available
Mae’r cwrs hwn yn addas i ddysgwyr sydd am gael gyrfa ym maes Gwyddor Chwaraeon a/neu’n Hyfforddi ym maes Chwaraeon. Bwriad y Radd Sylfaen yw datblygu'ch dealltwriaeth o Wyddor Chwaraeon ac o sut i Hyfforddi, drwy ddadansoddi egwyddorion, cysyniadau a materion cyfredol a’u rhoi ar waith mewn sefyllfaoedd go iawn. Wrth ddysgu am wahanol ddisgyblaethau, byddwch yn meithrin gwybodaeth y gallwch ei rhoi ar waith mewn amrywiol sefyllfaoedd i'ch helpu i wella perfformiad ar y maes chwarae. Gwybodaeth Ychwanegol Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran ‘Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs’. Ewch i'r dudalen Cymorth Ariannol a Chyllid am fwy o wybodaeth. Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol). Mis Medi Mae graddau sylfaen yn addas i fyfyrwyr sydd ag ystod o alluoedd, gan gynnwys rhai nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol. Ni dderbynnir myfyriwr oni bai ei fod yn debygol o allu cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus a chael budd ohoni. Derbynnir y rhai nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol ar sail y canlynol, ond nid ar sail y canlynol yn unig: Yn achos unigolion sydd â chymwysterau ffurfiol, mae'r canlynol yn dderbyniol: Gofynion ieithyddol: Yn achos lleoliadau allanol, rhaid cael gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol. Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn: Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn: Ar ôl dilyn y cwrs, bydd nifer o ddewisiadau o ran dilyniant proffesiynol ac addysgol ar gael i chi. Bydd llawer o fyfyrwyr yn dewis mynd ymlaen i astudio ar Lefel 6, gan dreulio blwyddyn arall yn astudio at radd BSc (Anrh). Wedyn, gallant ddilyn cwrs TAR er mwyn bod yn athro/athrawes Addysg Gorfforol. Gall y Radd Sylfaen hefyd fod yn fodd i gael gwaith yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat . Gallech weithio fel hyfforddwr...
Facilities
Location
Start date
Start date
About this course
Datganiad personol neu CV, asesiad mewn cyfweliad, perfformiad mewn tasgau a osodwyd yn benodol i ddibenion derbyn, profiad gwaith perthnasol a thystlythyrau gan gyflogwyr.
Reviews
Subjects
- Nutrition
- Welsh
- Psychology
- Coaching
- Performance
- Physiology
- Sports Science
- Anatomy
- Employability
- IT Development
- Skills and Training
Course programme
Cyflwyniad:
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
- Darlithoedd
- Seminarau
- Tiwtorialau
- Gweithdai
- Grwpiau trafod
- Sesiynau hyfforddi ymarferol
- Siaradwyr Gwadd
- Dysgu myfyriwr ganolog
- Lleoliadau gwaith gyda hyfforddwyr profiadol
- Profiad Gwaith mewn Lleoliad Datblygu Chwaraeon
- Gweithio gyda Chanolfannau Rhagoriaeth mewn Chwaraeon yn y coleg
- Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE).
Asesiad:
Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Portffolios unigol
- Traethodau
- Adroddiadau
- Astudiaethau achos
- Cyflwyniadau
- Asesiadau i'w gwneud mewn amser penodol (gan a heb ddefnyddio llyfrau)
- Adroddiadau grwpiau
- Cyflwyniadau grŵp.
 
Foundation Degree (FdSc) Sport Science (Sports Coaching)