Hairdressing Level 1
A Level
In Rhos-On-Sea
Description
-
Type
A Level
-
Location
Rhos-on-sea (Wales)
-
Start date
Different dates available
Ydych chi’ngobeithio cychwyn gyrfa ym maes trin gwallt? Hoffech chi ennyn amrywiaeth o sgiliau proffesiynol yn y sector hwn? Mae’r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad i’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gael rôl draddodiadol fel is-steilydd gwallt fel y gallwch helpu steilydd gyda’r gwaith beunyddiol mewn salon neu weithle tebyg. Gall hefyd fod yn gam ymlaen at eich astudiaethau Lefel 2. Mae’r cwrs yn cynnwys defnyddio siampŵ, sychu, iechyd a diogelwch, gwaith derbynfa a phynciau hanfodol eraill. Mae gennych yr opsiwn o astudio ychydig o fodiwlau Therapi Harddwch hefyd fel rhan o’r rhaglen. Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r canlynol: Byddwch hefyd yn mynd ar brofiad gwaith fel rhan o’r rhaglen. Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau yn ymwneud â phynciau penodol yn ogystal â sgiliau llythrennedd a rhifedd. Byddwch hefyd yn astudio cymwysterau perthnasol eraill, a allai gynnwys Cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Cewch wybod am hyn yn eich cyfweliad neu cysylltwch â Gwasanaethau i Ddysgwyr am fwy o wybodaeth. Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o’r canlynol: Mae’r rhaglen yn rhoi cymhwyster a set gwerthfawr o sgiliau i’ch helpu symud ymlaen i swydd neu addysg. Byddai modd i chi fynd yn eich blaen i astudio nifer o raglenni gyda Grŵp Llandrillo Menai, yn cynnwys:
Facilities
Location
Start date
Start date
About this course
Diddordeb gwirioneddol ac ymroddiad i'r pwnc. Cyfweliad
Reviews
Subjects
- Hairdressing
- Skills and Training
Course programme
Cyflwyniad:
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r canlynol:
- Cyflwyniad Ymarferol
- Sesiynau Theori
- Hyfforddiant Masnachol mewn Salon
Byddwch hefyd yn mynd ar brofiad gwaith fel rhan o’r rhaglen.
Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau yn ymwneud â phynciau penodol yn ogystal â sgiliau llythrennedd a rhifedd.
Byddwch hefyd yn astudio cymwysterau perthnasol eraill, a allai gynnwys Cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Cewch wybod am hyn yn eich cyfweliad neu cysylltwch â Gwasanaethau i Ddysgwyr am fwy o wybodaeth.
Asesiad:
Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o’r canlynol:
- Arsylwi
- Asesiadau ymarferol
- Profion ysgrifenedig ac ar lafar
 
Hairdressing Level 1