Introduction to Social Media for Small Businesses
Master
In Rhos-On-Sea
Description
-
Type
Master
-
Location
Rhos-on-sea (Wales)
-
Start date
Different dates available
Mae cyfryngau cymdeithasol yn parhau i fod y dull sy'n tyfu gyflymaf a'r dull mwyaf pwerus o farchnata'ch busnes. Cyfryngau cymdeithasol yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio'r modd yr ydym yn rhyngweithio'n gymdeithasol ar y we, ar declynnau amrywiol ac ar wahanol gyfryngau sgwrsio a thrafod. Erbyn hyn, mae cyfryngau cymdeithasol yn bwysig iawn i fusnesau ledled y byd, pa un a ydynt yn defnyddio'r we ai peidio. Bydd eich cwsmeriaid yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i sôn am eich cwmni ac i ryngweithio â'ch busnes, pa un a ydych am iddynt wneud hynny ai peidio. Heddiw, y cwsmer sy'n rheoli'r negeseuon a drosglwyddir am eich busnes a'ch brand. Allwch chi ddim rheoli'r cyfryngau cymdeithasol, ond gallwch wrando arnynt a'u defnyddio i ddatblygu'ch busnes. Mae nifer o wahanol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol gwahanol, gyda'r rhan fwyaf yn gadael i fusnesau ac unigolion greu, rhannu a rhyngweithio drwy gyfrwng negeseuon ysgrifenedig a gweledol. Mae potensial enfawr yma i gwrdd â phobl sydd â’r un diddordebau â chi ac i rannu gwybodaeth a dolenni gwefannau. Gall y ffactorau hyn, yn ogystal â'r gallu i gynyddu nifer y bobl sy'n 'hoffi' eich tudalen neu'n eich dilyn, ei wneud yn llwyfan perffaith i fusnes. Os nad ydych chi'n defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn eich busnes ar hyn o bryd ac os ydych yn drysu rhwng y gwahanol fathau sydd ar gael ac yn y niwl o ran pa rai a allai fod yn berthnasol i'ch busnes a'ch cwsmeriaid, bydd y sesiwn hon yn eich helpu i wneud dewisiadau cytbwys. Byddwn yn edrych hefyd ar sut y gall defnyddio cyfryngau cymdeithasol greu cyfleoedd yn y maes digidol. Bydd y gweithdy'n cynnwys: Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond anelir y cwrs hwn at fusnesau sydd ar fin cychwyn a pherchnogion busnes. Gweithdy Rhyngweithiol - cymysgedd o drafodaeth a dull cyflwyno ymarferol. Cewch weithio ar eich llwyfannau cyfryngau cymdeithasol eich hunain yn ystod y sesiwn. Gellir cynnig y cwrs hwn mewn gwahanol leoliadau ar draws y pedwar sir . Nid oes...
Facilities
Location
Start date
Start date
About this course
Beth yw cyfryngau cymdeithasol?
Pam y dylid defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ddibenion busnes?
Jargon cyfryngau cymdeithasol
Y peryglon wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i ddibenion busnes
Y safleoedd cyfryngau cymdeithasol gorau i fusnesau
Sut i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i ddibenion busnes
Cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol
Strategaeth cyfryngau cymdeithasol
Dulliau rheoli cyfryngau cymdeithasol
Reviews
Subjects
- PA
- Social Media
- Media
Course programme
Cyflwyniad:
Gweithdy Rhyngweithiol - cymysgedd o drafodaeth a dull cyflwyno ymarferol. Cewch weithio ar eich llwyfannau cyfryngau cymdeithasol eich hunain yn ystod y sesiwn.
Gellir cynnig y cwrs hwn mewn gwahanol leoliadau ar draws y pedwar sir.
Asesiad:
Nid oes asesiad ffurfiol
 
Introduction to Social Media for Small Businesses