Language Awareness in the Context of Education in Wales
Course
In Rhos-On-Sea
Description
-
Type
Course
-
Location
Rhos-on-sea (Wales)
-
Start date
Different dates available
Mae’r hyfforddiant yn gyfle i wella dealltwriaeth unigolion o agweddau ehangach sy’n gysylltiedig ag iaith a diwylliant. Mae’n rhoi’r cyfle iddynt gasglu gwybodaeth am ymwybyddiaeth iaith ac i archwilio eu hymateb eu hunain i faterion iaith. Mae’n bosib i unigolion wella eu hymwybyddiaeth a’u dealltwriaeth o ragfarn, gwahaniaethu a stereoteipio, a rhoddir sylw arbennig i wahaniaethu ar sail iaith. Yn ogystal, gellir rhoi diweddariad o sefyllfa’r Gymraeg o ran polisïau a threfniadau ansawdd presennol mewn addysg ar lefel leol a chenedlaethol. Caiff yr hyfforddiant ei gyflwyno mewn coleg, neu mewn lleoliad cyfleus arall os gwneir trefniant ar y cyd rhwng nifer o sefydliadau. Ariennir yr hyfforddiant gan Lywodraeth Cymru. Mae’r hyfforddiant yn addas ar gyfer cyrsiau TAR mewn Addysg a Hyfforddiant, a staff ym maes addysg ôl-14 yn gyffredinol. Gellir addasu’r hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i gyd-destunau proffesiynol eraill. Mae’r hyfforddiant yn cael ei deilwra ar gyfer sefydliadau penodol ac felly mae strwythur a hyd y cwrs yn dibynnu ar anghenion eich sefydliad. Ddim yn berthnasol. Mae Sgiliaith yn cynnig nifer o gyrsiau i gynorthwyo colegau a darparwyr eraill ledled Cymru wrth iddynt ymateb i'r galw cynyddol am sgiliau Cymraeg yn y sector addysg ôl-14. Gallwch bori drwy'r rhestr yn yr adran 'Cyrsiau' neu gysylltu â Sgiliaith i drefnu hyfforddiant a deilwriwyd yn arbennig i chi.
Facilities
Location
Start date
Start date
Reviews
Course programme
Cyflwyniad:
Mae’r hyfforddiant yn cael ei deilwra ar gyfer sefydliadau penodol ac felly mae strwythur a hyd y cwrs yn dibynnu ar anghenion eich sefydliad.
Asesiad:
Ddim yn berthnasol.
 
Language Awareness in the Context of Education in Wales