Learning Support for Adults and Young People with Additional Learning Needs: Agored Level 2 CPD Units
A Level
In Rhos-On-Sea
Description
-
Type
A Level
-
Location
Rhos-on-sea (Wales)
-
Start date
Different dates available
Ydych chi ar hyn o bryd yn cefnogi Oedolion a Phobl Ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn y gymuned neu mewn Addysg Bellach (AB), ac yn awyddus i ddatblygu'ch sgiliau a'ch gwybodaeth? A allai rhai unedau Lefel 2 mewn Cymorth Dysgu i Oedolion a Phobl Ifanc ag ADY eich helpu i roi cefnogaeth fwy effeithiol i'r dysgwyr? A allai rhai unedau Lefel 2 mewn Cymorth Dysgu i Oedolion a Phobl Ifanc ag ADY eich helpu i ddeall rôl Cynorthwyydd Cymorth Dysgu o ran darparu amgylchedd dysgu effeithiol? Mae’r unedau'n addas i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gydag oedolion a phobl ifanc mewn amrediad eang o swyddi cefnogi ffurfiol ac anffurfiol, boed 1:1 neu mewn grŵp. Mae'n arbennig o addas i oedolion sy'n gweithio ar hyn o bryd yn y gymuned neu mewn lleoliad AB. Os oes gennych flynyddoedd o brofiad, neu os ydych yn gymharol newydd i'r sector, cewch fagu rhagor o brofiad a meithrin sgiliau newydd ar y cwrs. Bydd hefyd yn eich helpu i sylweddoli pa sgiliau sydd gennych eisoes ac i wneud gwell defnydd ohonynt. Yr unedau sydd ar gael: Gofynion academaidd: Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol. Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn: Sylweddolwn ei bod yn bosibl nad yw rhai ohonoch wedi astudio ers tro, a bydd cymorth i ddychwelyd i astudio ar gael drwy gydol y cwrs. Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfrwng llyfrynnau unigol sy'n cynnwys amrediad o dasgau ysgrifenedig. Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, cewch gyfle i fynd ymlaen i'r cam nesaf o ran datblygiad proffesiynol parhaus, sef y Dystysgrif Lefel 2 mewn Cymorth Dysgu i Oedolion a Phobl Ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Gallwch wneud hyn drwy gyflawni'r tair uned Datblygiad Proffesiynol Parhaus ynghyd â'r Dyfarniad.
Facilities
Location
Start date
Start date
About this course
Cynorthwyo Oedolion a Phobl Ifanc sydd ag Anhwylderau Syndrom Awtistiaeth i Ddysgu.
Strategaethau ar gyfer Hybu Ymddygiad Cadarnhaol yn y Dosbarth.
Cynorthwyo Oedolion a Phobl Ifanc sydd â Phroblemau Iechyd Meddwl i Ddysgu.
Reviews
Subjects
- IT for adults
- Skills and Training
Course programme
Cyflwyniad:
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
- Darlithoedd
- Trafodaeth grŵp
- Ymchwilio’n annibynnol
- Dysgu myfyriwr ganolog
- Amgylchedd dysgu rhithiol (MOODLE)
Sylweddolwn ei bod yn bosibl nad yw rhai ohonoch wedi astudio ers tro, a bydd cymorth i ddychwelyd i astudio ar gael drwy gydol y cwrs.
Asesiad:
Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfrwng llyfrynnau unigol sy'n cynnwys amrediad o dasgau ysgrifenedig.
 
Learning Support for Adults and Young People with Additional Learning Needs: Agored Level 2 CPD Units