Music and Music Technology Level 2
A Level
In Rhos-On-Sea
Description
-
Type
A Level
-
Location
Rhos-on-sea (Wales)
-
Start date
Different dates available
Ydych chi wedi gwirioni ar gerddoriaeth? Hoffech chi gael gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth? Ar y cwrs hwn, cewch wybodaeth werthfawr am y sector cerdd a thechnoleg cerdd. Byddwch yn dysgu am bynciau fel: sut i gynllunio a chreu cynnyrch cerddorol, sut i weithio fel cerddor, ar eich pen eich hun ac yn rhan o grŵp. Byddwch yn dysgu sut i recordio a chynhyrchu cerddoriaeth, a byddwch yn edrych ar y meddalwedd cyfrifiadurol perthnasol a ddefnyddir yn y diwydiant cerddoriaeth. Bydd hefyd yn eich helpu i chi feithrin amrediad o sgiliau a thechnegau ymarferol, a fydd yn eich paratoi i weithio ac astudio ar lefel uwch. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar nifer o bynciau sy'n seiliedig ar gerddoriaeth a chyfrifiaduron yn ogystal ag astudio cerddoriaeth boblogaidd a recordio. Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn: Byddwch yn elwa ar gyfleusterau sydd o'r radd flaenaf yn ystod y cwrs, a fydd yn amrywio o gampws i gampws. Mae’r rhain yn cynnwys stiwdio recordio, offerynnau cerddorol, cyfleusterau cymysgu, lolfa fyw, ystafelloedd trin deunydd digidol Mac, ystafelloedd ymarfer a lolfeydd myfyrwyr. Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn: Os gwnewch chi gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau o ran addysg a gwaith. Bydd llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i ddilyn cwrs Lefel 3 perthnasol gyda Grŵp Llandrillo Menai. Trwy wneud hyn byddwch yn datblygu'ch gwybodaeth a'ch sgiliau creadigol ar lefel uwch. Gallwch hefyd ddewis gwneud cais i ddilyn cwrs mewn maes gwahanol. Ar ôl cwblhau'r rhaglen, gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o gyrsiau uwch Lefel 3 yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys: Bydd gennych hefyd gyfleodd gwaith posib yn y diwydiant cerddoriaeth, y diwydiannau creadigol a'r sector dechnoleg un ai yn syth neu yn dilyn hyfforddiant pellach. Gall y rhain gynnwys gyrfa fel cerddor, cynhyrchydd, peiriannydd darlledu, rheolwr adloniant, cyfansoddwr neu athro.
Facilities
Location
Start date
Start date
About this course
3 TGAU gradd D neu uwch ac 1 TGAU gradd E, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af) gyda gradd D neu E
neu
Diploma Lefel 1 mewn pwnc perthnasol
Cyfweliad
Reviews
Subjects
- Music Technology
- Music Industry
- Technology
- Industry
- Music
- Mac
- Musical
Course programme
Cyflwyniad:
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
- Sesiynau ymarferol a gweithdai
- Gweithgareddau yn y dosbarth
- Gwaith grŵp, fel dosbarth cyfan neu mewn grwpiau arbenigol
- Astudio o'ch pen a'ch pastwn eich hun
- Sesiynau gyda Thiwtor Personol
Byddwch yn elwa ar gyfleusterau sydd o'r radd flaenaf yn ystod y cwrs, a fydd yn amrywio o gampws i gampws. Mae’r rhain yn cynnwys stiwdio recordio, offerynnau cerddorol, cyfleusterau cymysgu, lolfa fyw, ystafelloedd trin deunydd digidol Mac, ystafelloedd ymarfer a lolfeydd myfyrwyr.
Asesiad:
Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
- Asesir rhai unedau'n allanol (asesiadau ysgrifenedig ac ymarferol)
- Cyflwyniadau ac arddangosiadau
- Portffolios a llyfrau logio gweithgareddau
- Perfformio ac arsylwi
 
Music and Music Technology Level 2