NVQ Level 2 Hairdressing (Apprenticeship)
NVQ
In Rhos-On-Sea
Description
-
Type
NVQ
-
Location
Rhos-on-sea (Wales)
-
Start date
Different dates available
Ydych chi'n gweithio fel steilydd, neu ar fin cychwyn gyrfa mewn trin gwallt? Hoffech chi wella eich gwybodaeth a'ch sgiliau technegol? Bydd y cwrs prentisiaeth hwn yn rhoi cyfle i chi ennill cymhwyster Lefel 2 gwerthfawr tra byddwch yn gweithio. Mae'n adeiladu ar eich dealltwriaeth bresennol ac yn eich helpu i ragori fel steilydd. Mae'r cwrs yn ymdrin â phob agwedd ar steilio gwallt merched, ac yn eich hyfforddi i safon uchel mewn torri, permio, lliwio, melynu, sychu a setio, yn ogystal â thriniaethau gwallt / croen y pen. Hefyd, gallwch ennill gwybodaeth a sgiliau mewn gwaith derbynfa, iechyd a diogelwch a manwerthu. Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol. Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol: Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol: Maer cwrs yn rhoi cymhwyster gwerthfawr i chi ac yn codi eich sgiliau trin gwallt i lefel uwch. Byddwch yn gallu rhagori a symud ymlaen o fod yn brentis i fod yn steilydd llawn. Byddwch hefyd yn barod am astudiaeth bellach ar lefel uwch. Gallech ddewis parhau i astudio'n rhan amser a symud ymlaen at y cwrs Prentisiaeth NVQ 3 mewn Trin Gwallt, sydd hefyd yn cael ei gynnig yng Ngrŵp Llandrillo Menai.
Facilities
Location
Start date
Start date
About this course
Rhaid i chi fod yn gweithio mewn salon trin gwallt yn barod.
Dylai fod gennych gymhwyster Lefel 1 mewn trin gwallt, neu wybodaeth broffesiynol gyfwerth.
Rhaid i chi fod yn frwdfrydig, yn ymroddedig ac yn barod i ddysgu.
Rhaid i chi fod â phersonoliaeth ddigyffro a gofalgar ac edrychiad trwsiadus
Bydd angen i chi ddod am gyfweliad a darparu geirda
Disgwylir i chi brynu cit, gwisg a llyfrau, fydd yn costio tua £270 (gallai cost y rhain newid)
Reviews
Subjects
- Hairdressing
- Stylist
- Skills and Training
Course programme
Cyflwyniad:
Mae'r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Dosbarthiadau theori
- Gweithdai ymarferol
- Amgylchedd salon go iawn yn y coleg
- Sesiynau masnachol
- Dangosiadau
- Ymarferion chwarae rôl
- Gwaith grŵp
Asesiad:
Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Portffolio o aseiniadau ymarferol i bob uned
- Aseiniadau a thasgau
- Profion aml-ddewis ar y wybodaeth ategol
- Bydd eich ymddygiad hefyd yn cyfrif tuag at eich asesiad, o ran aeddfedrwydd, datblygiad, rhyngweithio a chyfathrebu.
 
NVQ Level 2 Hairdressing (Apprenticeship)