Painting and Decorating Level 2
A Level
In Rhos-On-Sea
Description
-
Type
A Level
-
Location
Rhos-on-sea (Wales)
-
Start date
Different dates available
Hoffech chi gychwyn gyrfa ym maes paentio ac addurno? Mae’r rhaglen hon yn ymdrin ag amrediad o dechnegau paentio ac addurno lefel uwch, gan ddysgu rhagor i chi am y grefft. Cewch feithrin yr arbenigedd a fydd yn eich galluogi i weithio’n annibynnol, a chewch afael gadarn ar sut i greu effeithiau addurnol o safon uwch, fel graenio a marmori. Mae’r rhaglen yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd wedi dilyn y cwrs Paentio ac Addurno Lefel 1, a bydd yn adeiladu ar y wybodaeth y gwnaethant ei meithrin ar y lefel honno. Mae hefyd yn addas ar gyfer pobl sydd wedi cael profiad ymarferol perthnasol ac nad ydynt, o anghenraid, wedi dilyn y cwrs Lefel 1. Yn ogystal â sgiliau Llythrennedd a Rhifedd, byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau sy'n ymdrin â phynciau penodol. Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn: Cewch eich asesu drwy gyfuniad o’r canlynol: Bydd llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i ddilyn cwrs Diploma Lefel 3 mewn Galwedigaethau Addurno. Bydd hyn yn caniatáu i chi ddatblygu’ch sgiliau ymhellach a byddwch gam yn nes at eich gyrfa newydd. O ran y diwydiant, bydd y rhaglen yn rhoi i chi’r sgiliau a’r cymhwyster sy’n angenrheidiol i fynd yn hunangyflogedig neu i weithio i gwmni neu gontractwr. Os byddwch yn mynd i weithio, gallwch hefyd ddilyn cwrs NVQ Lefel 2 mewn Galwedigaethau Addurno, gan ddatblygu’ch sgiliau i safon uwch a mwy proffesiynol fyth.
Facilities
Location
Start date
Start date
About this course
Diploma Lefel 1 mewn pwnc perthnasol.
Cyfweliad.
Reviews
Subjects
- English
- Materials
- Painting and Decorating
- Decorating
- Painting
- Skills and Training
Course programme
Cyflwyniad:
Yn ogystal â sgiliau Llythrennedd a Rhifedd, byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau sy'n ymdrin â phynciau penodol.
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
- Sesiynau ymarferol mewn gweithdai lle ceir adnoddau o’r radd flaenaf
- Hyfforddiant mewn amgylchedd gwaith realistig (RWE)
- Darperir yr holl offer, cyfarpar a defnyddiau
- Gwersi theori mewn ystafelloedd dosbarth llawn cyfarpar
- Darlithoedd
- Trafodaethau
- Arddangosiadau
Asesiad:
Cewch eich asesu drwy gyfuniad o’r canlynol:
- Aseiniadau amlddewis
- Prawf synoptig, ymarferol ar y diwedd
- Prawf ar-lein GOLA
 
Painting and Decorating Level 2