PDA in Applications of ICT in Libraries (SQA Level 8)
A Level
In Rhos-On-Sea
Description
-
Type
A Level
-
Location
Rhos-on-sea (Wales)
-
Start date
Different dates available
Ydych chi’n gweithio mewn llyfrgell neu uned wybodaeth? Allech chi elwa o sgiliau TGCh arbenigol i wella eich ymarfer proffesiynol? Mae’r cwrs hwn yn datblygu eich gwybodaeth ymarferol am y technolegau presennol a’u gwahanol gymwysiadau. Mae’n canolbwyntio ar feysydd gwaith llyfrgell traddodiadol, ond yn dangos ichi sut i ddefnyddio TGCh i gyflawni’r tasgau hyn. Mae hefyd yn cynnwys modiwl addysgu dewisol, gan eich helpu i ddangos i gwsmeriaid sut i ddefnyddio cyfarpar a chwilio am wybodaeth. Mae’r cwrs yn dilyn ymlaen o’r PDA Lefel 7 cyfwerth. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer pob staff llyfrgell a gwybodaeth sydd am wella eu sgiliau TGCh. Mae hyn yn cynnwys staff mewn llyfrgelloedd cyhoeddus, meddygol ac academaidd, yn ogystal ag ystod o wasanaethau gwybodaeth eraill. Byddwch yn parhau i gyfoethogi eich gwaith llyfrgell drwy ddysgu technegau TGCh llyfrgell-benodol. Mae’n bosibl astudio’r cwrs hwn drwy ddysgu o bell. Cefnogir y cwrs gan CyMAL ar hyn o bryd, ac efallai y byddwch yn gymwys i gael grant i dalu eich ffioedd. Gwneir cais yn awtomatig am y grant ar eich rhan. Gwybodaeth Ychwanegol Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran ‘Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs’. Mae rhagor o wybodaeth am ffioedd a chefnogaeth ariannol ar gael ar: Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol). Mae’r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o’r canlynol: Gallwch astudio’r cwrs o bell, heblaw am yr uned Diwylliant Digidol. Bydd pob dysgwr o bell yn cael sesiwn gynefino wyneb yn wyneb, a medrant ddewis mynychu gweithdai mewn lleoliadau oddi ar y safle. Mae’r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o’r canlynol: Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn arwain at nifer o opsiynau addysgol neu gyflogaeth. Byddwch wedi gwella eich ymarfer proffesiynol, drwy fyfyrion feirniadol ac ennill sgiliau newydd . Byddwch wedi ennill...
Facilities
Location
Start date
Start date
About this course
PDA mewn Defnyddio TGCh mewn Llyfrgelloedd (SQA Lefel 7)
Mae angen ichi fod yn gweithio ar hyn o bryd mewn llyfrgell neu uned wybodaeth
Profiad o waith cyfeiriol ac ymholiadau
Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd (ECDL) neu gymhwyster prosesu geiriau cyfwerth, sgiliau e-bost a rhyngrwyd
Reviews
Subjects
- Staff
- Teaching
- Skills and Training
Course programme
Cyflwyniad:
Mae’r cwrs yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad o’r canlynol:
- Tair sesiwn 2 awr
- Deunyddiau dysgu ar-lein
- Eich ymarfer eich hun yn y gweithle
- Gwaith myfyriol
Gallwch astudio’r cwrs o bell, heblaw am yr uned Diwylliant Digidol. Bydd pob dysgwr o bell yn cael sesiwn gynefino wyneb yn wyneb, a medrant ddewis mynychu gweithdai mewn lleoliadau oddi ar y safle.
Asesiad:
Mae’r cwrs yn cael ei asesu drwy gyfuniad o’r canlynol:
- Llyfrau log o enghreifftiau gwaith gwirioneddol
- Traethodau
- Astudiaethau achos
- Ymarferion ymarferol
- Profion ysgrifenedig
- Adroddiadau
- Ysgrifennu myfyriol
 
PDA in Applications of ICT in Libraries (SQA Level 8)
