Project Management - Higher Apprenticeship
Master
In Rhos-On-Sea
Description
-
Type
Master
-
Location
Rhos-on-sea (Wales)
-
Start date
Different dates available
Mae Prentisiaeth Uwch mewn Rheoli Prosiectau yn cynnig llwybr cynnydd i rai sydd eisiau mynd i'r byd rheoli prosiectau neu ddefnyddio sgiliau rheoli prosiectau i wella eu gyrfa mewn maes arall. Mae'n cynnig cyfle da i wella cymhwysedd a llenwi bylchau sgiliau sydd wedi eu hadnabod eisoes. Mae'r bylchau yn cynnwys sgiliau rheoli rhanddeiliaid, delio a chymhlethdodau, sgiliau cyfathrebu a chymhwysedd technegol fel gosod amserlen i brosiect, asesu risg, ennill gwerth, cynllunio ac amcangyfrif. Mae rheoli prosiect yn ddewis cyntaf fel gyrfa i nifer erbyn hyn. Yn y gorffennol, roedd nifer o bobl yn rheoli prosiectau ar ôl blynyddoedd o weithio mewn sectorau a swyddi gwahanol. Mae'r rhagdybiaeth bod rheoli prosiectau yn ddewis i'w wneud ar ganol eich gyrfa yn golygu nad oes llawer o gyfleoedd yn y maes i arweinwyr prosiect ifanc a medrus. Mae nifer o ddyletswyddau rheoli o fewn prosiectau yn gallu cynnig cyfleoedd i bobl ifanc broffesiynol, a gall y rhain arwain at swyddi prosiect uwch dros gyfnod o amser. Bydd y Prentisiaethau Uwch yn cydnabod gwerth y gwaith hwn yn ffurfiol ac yn gosod sylfeini cadarn i'r genhedlaeth nesaf o reolwyr prosiectiau cymwys. Mae angen i ddysgwyr fod yn rheoli prosiectau i gwrdd ag crieteria y cymhwyster hwn. Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol. O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3 ac yna i Brentisiaeth Uwch Lefel 4. Ariannwyd y rhaglen hwn yn rhannol gan Gronfa Cymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Facilities
Location
Start date
Start date
About this course
Darperir y rhan fwyaf o'r hyfforddiant yn y gweithle
Bydd gofyn i ddysgwyr fynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori
Reviews
Subjects
- Management
- IT Project Management
- Project
- Project Management
- IT Management
- Skills and Training
Course programme
Cyflwyniad:
- Darperir y rhan fwyaf o'r hyfforddiant yn y gweithle
- Bydd gofyn i ddysgwyr fynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori
Asesiad:
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion theori
 
Project Management - Higher Apprenticeship