Seminar: Planning Bilingualism for Managers
Master
In Rhos-On-Sea
Description
-
Type
Master
-
Location
Rhos-on-sea (Wales)
-
Start date
Different dates available
Nod yr hyfforddiant yw arfogi Uwch-Reolwyr a Rheolwyr Canol i gynllunio a rheoli dwyieithrwydd yn effeithiol yn eu hadrannau yn y sector Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith. Byddant yn ymwybodol o sut i weithio’n effeithiol gyda staff (yn benodol, y rhai y mae ganddynt gyfrifoldebau Rheolwr Llinell drostynt) mewn modd priodol ac addas ar gyfer anghenion ieithyddol y grwpiau (neu unigolion) dysgu yn eu hadrannau. Cynhelir y Seminar mewn lleoliadau canolog ar draws Cymru (cysylltwch â Sgiliaith neu cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr sy’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am ddyddiadau/amseroedd/lleoliadau’r hyfforddiant). Ariennir yr hyfforddiant gan Lywodraeth Cymru. Seminar sydd wedi cael ei drefnu gan Sgiliaith a CholegauCymru ar y cyd yw hwn ac mae’n addas i Uwch Reolwyr a Rheolwyr Canol Cymraeg a di-gymraeg yn y sector Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith. Bydd y Seminar yn canolbwyntio ar agweddau fel: a bydd yr holl adnoddau’n ddwyieithog. Yn ystod y Seminar cynhelir Gweithdy o dan arweiniad Cyfarwyddwr Ymgysylltu ColegauCymru a drwy gydol y bore ceir digon o gyfle i feddwl, gwerthuso, rhwydweithio a chynllunio at y dyfodol. Gellir ddod o hyd i adnoddau'r cwrs ar Moodle. Ddim yn berthnasol. Mae Sgiliaith yn cynnig nifer o gyrsiau i gynorthwyo colegau a darparwyr eraill ledled Cymru wrth iddynt ymateb i'r galw cynyddol am sgiliau Cymraeg yn y sector addysg ôl-14. Gallwch bori drwy'r rhestr yn yr adran 'Cyrsiau' neu gysylltu â Sgiliaith i drefnu hyfforddiant a deilwriwyd yn arbennig i chi.
Facilities
Location
Start date
Start date
About this course
Y cyd-destun ieithyddol – hanes a sefyllfa’r iaith Gymraeg, gweledigaeth Llywodraeth Cymru, polisïau/strategaethau cyfredol ac ati;
Rheoli’r gwaith o hyrwyddo dwyieithrwydd yn gadarnhaol yn y sector AB a DSW;
Rhannu arferion da: rôl y Rheolwr Llinell.
Reviews
Subjects
- Planning
Course programme
Cyflwyniad:
Bydd y Seminar yn canolbwyntio ar agweddau fel:
- Y cyd-destun ieithyddol – hanes a sefyllfa’r iaith Gymraeg, gweledigaeth Llywodraeth Cymru, polisïau/strategaethau cyfredol ac ati;
- Rheoli’r gwaith o hyrwyddo dwyieithrwydd yn gadarnhaol yn y sector AB a DSW;
- Rhannu arferion da: rôl y Rheolwr Llinell.
a bydd yr holl adnoddau’n ddwyieithog.
Yn ystod y Seminar cynhelir Gweithdy o dan arweiniad Cyfarwyddwr Ymgysylltu ColegauCymru a drwy gydol y bore ceir digon o gyfle i feddwl, gwerthuso, rhwydweithio a chynllunio at y dyfodol.
Gellir ddod o hyd i adnoddau'r cwrs ar Moodle.
Asesiad:
Ddim yn berthnasol.
 
Seminar: Planning Bilingualism for Managers