Sport (Performance and Excellence) Level 3
A Level
In Rhos-On-Sea
Description
-
Type
A Level
-
Location
Rhos-on-sea (Wales)
-
Start date
Different dates available
Ydych chi'n hoffi cymryd rhan mewn chwaraeon? Ydych chi'n awyddus i ddatblygu'ch perfformiad? Hoffech chi feithrin gwybodaeth academaidd fanwl ym maes chwaraeon? Ar y cwrs hwn byddwch yn dod i ddeall beth sydd y tu ôl i berfformio ar y lefel uchaf drwy astudio meysydd megis hyfforddi a seicoleg, maetheg ac anafiadau. Drwy gydol y cwrs byddwch yn elwa ar brofiad ymarferol staff chwaraeon y Grŵp o wahanol gampau. Bydd hyn yn eich galluogi i roi ar waith yr hyn rydych yn ei ddysgu yn yr ystafell ddosbarth. Byddwch yn meithrin y wybodaeth ac yn magu'r hyder a'r sgiliau arwain fydd eu hangen arnoch i ddechrau ar yrfa neu symud ymlaen i Addysg Uwch. Byddwch yn gallu gweithio neu astudio mewn meysydd megis datblygu chwaraeon, hyfforddi chwaraeon, hyfforddi ffitrwydd neu addysg gorfforol. Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn: Mae'n bosib y bydd rhai profion allanol hefyd. Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych amryw o ddewisiadau o ran addysg a gwaith. Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys: Gellwch hefyd wneud cais i sefydliadau eraill i astudio am Raddau, Graddau Sylfaen neu HNDs mewn pynciau Awyr Agored, Gwyddor Chwaraeon, Datblygu Chwaraeon, Daearyddiaeth, Nyrsio, Ymarfer Dysgu, Busnes a Chyfrifiadura, i enwi ond ychydig. Gallech hefyd fynd ymlaen i gyflogaeth, un ai'n uniongyrchol neu ar ôl astudiaethau pellach.Mae cyn-fyfyrwyr wedi sicrhau gwaith mewn canolfannau awyr agored a chanolfannau hamdden a chwaraeon fel hyfforddwyr, goruchwylwyr a rheolwyr. Mae eraill wedi cael eu derbyn i'r Heddlu, y Fyddin a'r Llynges Frenhinol.
Facilities
Location
Start date
Start date
About this course
4 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af) gyda gradd C neu D
neu
Diploma Lefel 2 mewn pwnc perthnasol
Cyfweliad
Reviews
Subjects
- Coaching
- Performance
Course programme
Cyflwyniad:
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
- Gwaith grŵp
- Dysgu yn y dosbarth
- Cefnogaeth tiwtor
- Ymweliadau addysgol
- Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)
Asesiad:
- Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
- Cyflwyniadau ac arddangosiadau
- Portffolios gwaith
- Perfformio ac arsylwi
Mae'n bosib y bydd rhai profion allanol hefyd.
 
Sport (Performance and Excellence) Level 3