Triple Bar Nuclear Manufacturing
Master
In Rhos-On-Sea
Description
-
Type
Master
-
Location
Rhos-on-sea (Wales)
-
Start date
Different dates available
Unrhyw un sy'n gweithio ar unrhyw lefel yn y gadwyn gyflenwi, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â dylunio cynnyrch, cynhyrchu, archwilio a phrofi, gwerthu, caffael a rheoli prosiect. Cyflwynir y wybodaeth allweddol ar ffurf tri modiwl cysylltiedig: Ymwybyddiaeth Niwclear Sylfaenol (BNA) Hanes y diwydiant niwclear a'i ddiwylliant unigryw. Mae'n cynnwys: ymbelydredd a llygredd, beth sy'n ffurfio gorsaf pŵer niwclear, hanes pŵer niwclear yn y Deyrnas Unedig, cydymffurfio a rheolau diogelwch a gwersi a ddysgwyd. Ansawdd Niwclear Sylfaenol (BNQ) Beth a olygir wrth ofynion ansawdd ar gyfer cynhyrchu niwclear? Mae'n cynnwys: manylebau cynllunio, dogfennau ansawdd a chanlyniadau defnyddio cydrannau gwael neu ddiffygiol gan ddefnyddio astudiaethau achos. Ansawdd Niwclear Sylfaenol (BNB) Beth yw'r safonau ymddygiad sy'n ofynnol gan y diwydiant niwclear? Mae'n cynnwys: pwysigrwydd ymddygiadau diogel a'r diwylliant niwclear o ddiogelwch, offer a thechnegau perfformio dynol er atal camgymeriadau, arsylwadau yn y gweithle ac adrodd ar ddamweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd. Datblygwyd y Bar Triphlyg ar gyfer Cynhyrchu Niwclear (TBNM) gan Gynhyrchwyr Niwclear ar gyfer Cynhyrchwyr Niwclear. Mae'n rhoi dealltwriaeth gadarn i unigolion sy'n gweithio yn y sector gweithgynhyrchu o'r hyn sy'n gwneud y diwydiant niwclear yn wahanol i ddiwydiannau eraill. Mae'n ddelfrydol ar gyfer gweithwyr sy'n newydd i'r sector yn ogystal â gweithwyr profiadol nad ydynt hyd yma wedi cael unrhyw hyfforddiant yn y maes niwclear. Mae'r hyfforddiant yn darparu gwybodaeth ar lefel sylfaenol. Gwneir hyn er mwyn sicrhau dealltwriaeth o ofynion y diwydiant o ran cydymffurfiad a chanlyniadau peidio â pherfformio'n briodol. Award in Nuclear Industry Awareness (ANIA)
Facilities
Location
Start date
Start date
About this course
amgylchedd dosbarth
ymarferion ymarferol
ymarferion theoretig
Reviews
Course programme
Cyflwyniad:
- amgylchedd dosbarth
- ymarferion ymarferol
- ymarferion theoretig
Asesiad:
- prawf TBNM terfynol (prawf cwestiynau amlddewis sy'n 30 munud o hyd)
Gwneir hyn er mwyn sicrhau dealltwriaeth o ofynion y diwydiant o ran cydymffurfiad a chanlyniadau peidio â pherfformio'n briodol.
 
Triple Bar Nuclear Manufacturing