Tutor’s Bilingualism Toolkit
Bachelor's degree
In Rhos-On-Sea
Description
-
Type
Bachelor's degree
-
Location
Rhos-on-sea (Wales)
-
Start date
Different dates available
Pwrpas y cwrs byr hwn yw rhoi enghreifftiau ymarferol o sut y gellir defnyddio’r Gymraeg yn y dosbarth. Caiff ymarferwyr yn y sector ôl-14 gyfle i drin a thrafod gwers (pwnc-benodol, e.e. gwasanaeth i gwsmeriaid) sy’n cynnwys cyfleoedd i ddatblygu’r Gymraeg. Gellir addasu’r math o weithgareddau a ddefnyddir fel enghreifftiau ar gyfer pob dosbarth sy’n cynnwys siaradwyr Cymraeg. Cyflwynir yr hyfforddiant mewn coleg, neu mewn lleoliad cyfleus arall os gwneir trefniant ar y cyd rhwng nifer o sefydliadau. Bydd angen mynediad i’r we. Cysylltwch â Sgiliaith am leoliadau cyrsiau sydd wedi’u trefnu. Ariennir yr hyfforddiant mewn sefydliadau addysgol gan Lywodraeth Cymru. Anelir y cwrs at athrawon at ymarferwyr ôl-14 sy’n addysgu grwpiau dwyieithog. Mae’r cwrs yn addas i siaradwyr Cymraeg a di-gymraeg. Mae’r Twlcit Sylfaenol yn arbennig o addas i staff sy’n llai hyderus wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn ffurfiol ac yn anffurfiol. Cynnwys y cwrs: Gellir ddod o hyd i adnoddau'r cwrs ar Moodle. Bydd aelod o dîm Sgiliaith yn cysylltu â phob aelod o’r grŵp ar ôl cwblhau’r hyfforddiant er mwyn asesu’r datblygiad a’r dilyniant. Os bydd hynny’n briodol, byddwn hefyd yn gwneud argymhellion ynghylch llwybrau hyfforddi pellach. Mae Sgiliaith yn cynnig nifer o gyrsiau i gynorthwyo colegau a darparwyr eraill ledled Cymru wrth iddynt ymateb i'r galw cynyddol am sgiliau Cymraeg yn y sector addysg ôl-14. Gallwch bori drwy'r rhestr yn yr adran 'Cyrsiau' neu gysylltu â Sgiliaith i drefnu hyfforddiant a deilwriwyd yn arbennig i chi.
Facilities
Location
Start date
Start date
About this course
Ymdriniaeth o wers cyfrwng Saesneg sydd â chyfleoedd i ddatblygu’r Gymraeg;
Gweithdy’n cynnwys cyfleoedd i adnabod termau allweddol, datblygu geirfa gyffredinol sy’n berthnasol i’r sector ac ehangu’r defnydd o’r Gymraeg;
Trafodaeth ar ddulliau dysgu ac addysgu’r wers enghreifftiol;
Aelodau’r grŵp yn datblygu cynllun gweithredu personol gan nodi pa fath o weithgareddau y byddant yn eu mabwysiadu a pha unigolion y gallant weithredu’r newidiadau hyn â hwy.
Reviews
Course programme
Cyflwyniad:
Cynnwys y cwrs:
- Ymdriniaeth o wers cyfrwng Saesneg sydd â chyfleoedd i ddatblygu’r Gymraeg;
- Gweithdy’n cynnwys cyfleoedd i adnabod termau allweddol, datblygu geirfa gyffredinol sy’n berthnasol i’r sector ac ehangu’r defnydd o’r Gymraeg;
- Trafodaeth ar ddulliau dysgu ac addysgu’r wers enghreifftiol;
- Aelodau’r grŵp yn datblygu cynllun gweithredu personol gan nodi pa fath o weithgareddau y byddant yn eu mabwysiadu a pha unigolion y gallant weithredu’r newidiadau hyn â hwy.
Gellir ddod o hyd i adnoddau'r cwrs ar Moodle.
Asesiad:
Bydd aelod o dîm Sgiliaith yn cysylltu â phob aelod o’r grŵp ar ôl cwblhau’r hyfforddiant er mwyn asesu’r datblygiad a’r dilyniant. Os bydd hynny’n briodol, byddwn hefyd yn gwneud argymhellion ynghylch llwybrau hyfforddi pellach.
 
Tutor’s Bilingualism Toolkit