Veterinary Nursing Level 3 (work-based)
A Level
In Rhos-On-Sea
Description
-
Type
A Level
-
Location
Rhos-on-sea (Wales)
-
Start date
Different dates available
Hoffech chi gael gyrfa'n gweithio gydag anifeiliaid? Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn Nyrs Filfeddygol Cofrestredig ? Campws Coleg Meirion-Dwyfor yng Nglynllifon yw'r unig ganolfan yng ngogledd Cymru i gynnig cwrs Lefel 3 y City and Guilds sydd wedi'i gymeradwyo gan Goleg Brenhinol y Milfeddygon. Yn ôl Deddf Milfeddygon 1966, ni allwch ymgymryd â holl ddyletswyddau Nyrs Filfeddygol gymwysedig heb y cymhwyster hwn. Mae'r cwrs yn addas i chi os ydych eisoes yn ymwneud â'r ochr nyrsio mewn milfeddygfa, neu os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gydag anifeiliaid. Dyma rai o'r unedau a astudir: Rhaid i ddysgwyr hefyd gael addewid o leoliad gwaith drwy gydol y cwrs mewn Milfeddygfa Hyfforddi a gymeradwywyd. .Bydd gofyn i chi gael o leiaf 1,800 awr o hyfforddiant ymarferol gyda Darparwr Hyfforddiant. Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn: Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, byddwch yn treulio un diwrnod yr wythnos yn y coleg, a phedwar diwrnod yr wythnos yn y practis. Yn ystod y drydedd flwyddyn, byddwch yn sefyll arholiadau ymarferol allanol ac yn treulio oriau'n gweithio yn y maes cyn gwneud cais am gael eich cofrestru gyda Choleg Brenhinol y Milfeddygon. Saif Glynllifon ar 750 acer o dir amaethyddol a choetir, a cheir yno ganolfan farchogaeth dan do a chanolfan anifeiliaid er mwyn i chi allu astudio mewn amgylchedd realistig. Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch gael gyrfa werth chweil, a gall dysgwyr fynd ymlaen i weithio yn y sector Nyrsio Milfeddygol, fel Nyrs Filfeddygol Gofrestredig. Gall y dysgwyr fynd ymlaen hefyd i ennill cymwysterau uwch yn y sector e.e. y BSc/FD/HND mewn Nyrsio Milfeddygol. Ym maes Nyrsio Milfeddygol, mae cyfleoedd hefyd i arbenigo mewn meysydd penodol e.e. ymddygiad, rheoli clwyfau.
Facilities
Location
Start date
Start date
About this course
Deall gofynion rhedeg milfeddygfa
Anatomeg a Ffisioleg
Lles, iechyd a hwsmonaeth anifeiliaid
Rheoli heintiau
Cymorth nyrsio
Nyrsio mewn argyfwng a gofal critigol
Cyflenwi meddyginiaethau
Sgiliau diagnostig
Anaesthesia
Gweithio mewn labordy
Gweithio mewn ystafell lawdriniaethau
Reviews
Subjects
- Veterinary
- Veterinary Nursing
Course programme
Cyflwyniad:
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
- Darlithoedd, er mwyn ymdrin â'r theori
- Profiad ymarferol gydag amrediad o anifeiliaid mewn amgylchedd gweithio realistig, mewn cyfleusterau pwrpasol ar gampws Glynllifon
- Profiad gwaith a hyfforddiant gyda hyfforddwr clinigol dynodedig, fel myfyriwr Nyrs Filfeddygol cyflogedig ar sail rhyddhau am y dydd o fewn practis hyfforddi
Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf, byddwch yn treulio un diwrnod yr wythnos yn y coleg, a phedwar diwrnod yr wythnos yn y practis.
Yn ystod y drydedd flwyddyn, byddwch yn sefyll arholiadau ymarferol allanol ac yn treulio oriau'n gweithio yn y maes cyn gwneud cais am gael eich cofrestru gyda Choleg Brenhinol y Milfeddygon.
Saif Glynllifon ar 750 acer o dir amaethyddol a choetir, a cheir yno ganolfan farchogaeth dan do a chanolfan anifeiliaid er mwyn i chi allu astudio mewn amgylchedd realistig.
Asesiad:
- Profion amlddewis ar-lein, gan ddefnyddio 'Evolve' x 3
- Aseiniadau a luniwyd yn y Ganolfan x 5
- Arholiadau a luniwyd yn y Ganolfan x 3
- Cwblhau'r Log Cynnydd Nyrsio sy'n seiliedig ar waith am 3 flynedd
- Arholiad ymarferol (OSCE) sy'n cynnwys 12 prawf ymarferol. Byddwch yn sefyll y rhain yn allanol – ar benwythnos fel arfer)
 
Veterinary Nursing Level 3 (work-based)