Foundation Degree (FdSc) Sport Science (Outdoor Recreation)
Course
In Rhos-On-Sea
Description
-
Type
Course
-
Location
Rhos-on-sea (Wales)
-
Start date
Different dates available
Hoffech chi ddysgu sgiliau personol ac ymarferol ynghyd â sgiliau hyfforddi? Mae'n bosib eich bod hefyd yn chwilio am lwybr gwahanol i Addysg Uwch. Mae'r cwrs hwn yn denu amrediad eang o unigolion o gefndiroedd academaidd a galwedigaethol sydd am feithrin sgiliau y mae'r diwydiant yn galw amdanynt. Bydd y cwrs yn eich arfogi â’r wybodaeth, sgiliau a’r ddealltwriaeth o’r sector Awyr Agored gofynnol ar gyfer cyflogaeth lwyddiannus. Byddwch yn astudio cymhwyster academaidd gan weithio hefyd tuag at gymwysterau medrusrwydd a hyfforddi cydnabyddedig mewn chwaraeon awyr agored megis ceufadu a hwylio. Ar hyn o bryd, mae'r cwrs hwn yn cael ei ailddilysu ac, o'r herwydd, mae'r cynnwys a ddarperir yn y daflen hon yn agored i newid. Ewch i'r dudalen Cymorth Ariannol a Chyllid am fwy o wybodaeth. Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol). Mis Medi Ar gyfer unigolion heb gymwysterau ffurfiol, mae mynediad wedi ei seilio ar, ond nid yn gyfyngedig, i ddatganiad personol neu CV, asesiad mewn cyfweliad, perfformiad yn y dasg a osodwyd yn benodol ar gyfer dibenion mynediad, profiad gwaith perthnasol a/neu dystlythyrau cyflogaeth. Byddwch yn astudio cyfanswm o 120 credyd ymhob blwyddyn, yn nodweddiadol dros 2 flynedd. Mae’r dull modiwlaidd o astudio yn cynnig parhâd a dyfnder dros y ddwy flynedd. Byddwch yn astudio ystod lawn o fodiwlau rhyng-gysylltiedig. Mae llwybr rhan-amser neu fodiwlaidd hefyd yn opsiynol. Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno fel a ganlyn: Caiff pob modiwl ei asesu ar sail asesu parhaus. Lledaenir asesiadau drwy gydol y flwyddyn drwy’r defnydd o: Bydd cwblhau'r rhaglen yn eich galluogi i gael mynediad i un o'r ystod o gyrsiau gradd o fewn yr Ysgol Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor. Yn dibynnu ar y graddau a gewch, gallwch fynd ymlaen i gwblhau cwrs gradd atodol sy'n para blwyddyn.
Facilities
Location
Start date
Start date
About this course
64 pwynt ar dariff UCAS, o lefel A/AS, Lefel Uwch Albanaidd (“Scottish Highers”), Tystysgrif Ymadael Wyddelig neu Diploma Estynedig BTEC mewn pwnc perthnasol.
Holl bynciau heblaw Lefel A Astudiaethau Cyffredinol yn cael eu hystyried.
Pasio gyda Gradd C neu uwch mewn TGAU Saesneg neu Cymraeg (iaith cyntaf) a Mathemateg yn ofynnol.
Byddai TGAU Addysg Gorfforol a Gwyddoniaeth yn fanteisiol.
Reviews
Subjects
- Coaching Skills
- Coaching
- Skills and Training
Course programme
Cyflwyniad:
Byddwch yn astudio cyfanswm o 120 credyd ymhob blwyddyn, yn nodweddiadol dros 2 flynedd. Mae’r dull modiwlaidd o astudio yn cynnig parhâd a dyfnder dros y ddwy flynedd. Byddwch yn astudio ystod lawn o fodiwlau rhyng-gysylltiedig. Mae llwybr rhan-amser neu fodiwlaidd hefyd yn opsiynol.
Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno fel a ganlyn:
- Gwaith grŵp
- Dysgu yn yr ystafell ddosbarth
- Cefnogaeth Tiwtorial
- Ymweliadau addysgol
- MOODLE (amgylchedd dysgu rhithwir)
Asesiad:
Caiff pob modiwl ei asesu ar sail asesu parhaus. Lledaenir asesiadau drwy gydol y flwyddyn drwy’r defnydd o:
- Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
- Profion
- Prosiectau
- Astudiaethau achos
- Cyflwyniadau ac arddangosiadau
- Portffolios o waith
- Perfformio ac arsylwi
 
Foundation Degree (FdSc) Sport Science (Outdoor Recreation)