The Art of Selling through Customer Service
Course
In Rhos-On-Sea
Description
-
Type
Course
-
Location
Rhos-on-sea (Wales)
-
Start date
Different dates available
Y cwestiwn a ofynnir amlaf gan fusnesau bach a mawr yw "Sut gallwn ni wneud rhagor o bres?" Nod pob penderfyniad a wna busnes yw cynyddu gwerthiant, gwneud rhagor o elw a chynyddu cyfleoedd i ehangu. Mae'r hinsawdd economaidd bresennol yn gorfodi busnesau i chwilio am ffyrdd newydd o sicrhau eu bod, nid yn unig yn tyfu, ond yn goroesi hefyd. Mae nifer o fusnesau'n holi sut gallant ddenu rhagor o ymwelwyr a chynyddu gwerthiant. Er ei bod yn wir fod denu rhagor o bobl yn gallu helpu i gynyddu gwerthiant, y ffordd yr ewch ati i gynnig gwasanaeth yn y siop fydd yn troi pobl yn gwsmeriaid. Mae'r cwrs hwn yn edrych ar sut y gallwch chi a'ch tîm ddwyn perswâd ar gwsmeriaid, eu trawsnewid o fod yn borwyr i fod yn brynwyr ac o ganlyniad i hynny'n cynyddu gwerthiant i bob cwsmer. Byddwch yn defnyddio'r wybodaeth hon i edrych ar sut y gallwch chi ddylanwadu ar eich cwsmeriaid yn ystod eu taith siopa a sut y gall arddangos eich arbenigedd ennyn diddordeb cwsmeriaid a'u darbwyllo i brynu. Bydd y gweithdy hwn yn rhoi cyflwyniad i: Fod yn werthwr proffesiynol - beth ydych chi'n ei werthu? Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond anelir y cwrs hwn at fusnesau sydd ar fin cychwyn a pherchnogion busnes. Gweithdy Rhyngweithiol - cymysgedd o drafodaeth a dull cyflwyno ymarferol. Gellir cynnig y cwrs hwn mewn gwahanol leoliadau ar draws y pedwar sir. Nid oes asesiad ffurfiol Cyrsiau manwerthu a busnes eraill
Facilities
Location
Start date
Start date
About this course
Sgwrsio a dod i wybod beth yw anghenion cwsmeriaid
Pwysigrwydd gwybod am eich cynnyrch - nodweddion a manteision
Gwerthu tu hwnt i'r hanfodion
Dylanwadu ar gwsmeriaid
Reviews
Subjects
- Customer Service
- Art
Course programme
Cyflwyniad:
Gweithdy Rhyngweithiol - cymysgedd o drafodaeth a dull cyflwyno ymarferol. Gellir cynnig y cwrs hwn mewn gwahanol leoliadau ar draws y pedwar sir.
Asesiad:
Nid oes asesiad ffurfiol
 
The Art of Selling through Customer Service