Foundation Diploma in Computing
Course
In Rhos-On-Sea
Description
-
Type
Course
-
Location
Rhos-on-sea (Wales)
-
Start date
Different dates available
A oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa ym maes Technoleg Gwybodaeth? A fyddech chi’n elwa ar gwrs TG amrywiol a fyddai'n eich paratoi ar gyfer ystod eang o rolau TG? Mae'r rhaglen hon yn rhoi gwybodaeth a sgiliau i chi o nifer o feysydd sy'n greiddiol i Dechnoleg Gwybodaeth a chyfle i ennill cymhwyster Lefel 3 cydnabyddedig. Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol os nad ydych yn siŵr ym mha faes TG yr hoffech chi weithio, neu os ydych am ddysgu cymysgedd o sgiliau TG.Byddwch yn astudio amrywiaeth o feysydd arbenigol gan gynnwys caledwedd dylunio a graffeg, datblygu rhaglenni, rhwydweithio a rhaglennu. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn elwa ar gyfleusterau rhagorol gan gynnwys offer aml-gyfrwng, ystafelloedd caledwedd a rhwydweithio yn ogystal â gweithdy TG i astudio ynddo yn eich amser eich hun. Cynigir cyfleoedd i ehangu eich dysg drwy ymweliadau gan siaradwyr gwadd, gweithgareddau grŵp a theithiau. Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn: Asesir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol: Oherwydd bod y cwrs yn cynnig ystod eang o sgiliau TG bydd gennych amrywiaeth o ddewisiadau o ran addysg a chyflogaeth. Gallech fynd ymlaen i gwrs Addysg Uwch, megis: Gallech hefyd gwblhau prentisiaeth mewn nifer o gyd-destunau cyfrifiadura. Os byddwch yn mynd yn syth i waith, gallwch fanteisio ar y meysydd TG yr ydych wedi eu hastudio. Gallwch hefyd barhau i ddatblygu drwy ddilyn cyrsiau proffesiynol Microsoft neu Cisco tra ydych yn gweithio.
Facilities
Location
Start date
Start date
About this course
4 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af) gyda gradd C neu D
neu
Diploma Lefel 2 mewn pwnc perthnasol
Cyfweliad
Reviews
Subjects
- Computing
Course programme
Cyflwyniad:
Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
- Darlithoedd
- Gweithdai
- Gwaith grŵp
- Siaradwyr gwadd
- Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)
Asesiad:
Asesir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Aseiniadau ysgrifenedig
- Arsylwadau
- Profion yn y dosbarth
- Asesiadau llafar
- Prosiectau
 
Foundation Diploma in Computing