Playwork Apprenticeships
Course
In Rhos-On-Sea
Description
-
Type
Course
-
Location
Rhos-on-sea (Wales)
-
Start date
Different dates available
Mae gwaith chwarae'n golygu creu a chynnal mannau i blant chwarae. Cydnabydda damcaniaethau ac arferion ym maes gwaith chwarae y dylai plant, yn ddelfrydol, fod yn rhydd i ddewis wrth chwarae, y dylent chwarae dan eu cyfarwyddyd eu hunain ac y dylai'r chwarae ddeillio o gymhelliad mewnol. Bydd gweithwyr chwarae'n creu llefydd diogel, ond anturus, i blant chwarae ynddynt. Maent yno i gadw golwg. Nid ydynt yn cyfarwyddo chwarae'r plant. Yn hytrach, maent yn hwyluswyr ac yn gefnogwyr sy'n arsylwi, yn ystyried ac yn dadansoddi'r chwarae sy'n digwydd, gan ddewis ffordd o ymyrryd neu addasu'r man chwarae yn ôl y galw, er mwyn ehangu'r chwarae neu alluogi'r plant i chwarae a'u helpu i fod yn ymwybodol o risgiau a heriau. Oherwydd canllawiau newydd, mae gofyn i staff sy'n gweithio yn y lleoliadau uchod gael cymhwyster ym maes gwaith chwarae. Mae fframweithiau'r Prentisiaethau ym maes Gwaith Chwarae'n cynnwys: Mae'r Brentisiaeth Sylfaen - addas i rai sy'n cynorthwyo mewn clybiau ar ôl ysgol, clybiau brecwast a chlybiau yn ystod gwyliau. Mae'n cynnwys Diploma Lefel 2 mewn Gwaith Chwarae yn ogystal â Sgiliau Hanfodol a Dyfarniad mewn Ymwybyddiaeth o Gyflogaeth. Mae'r Brentisiaeth - addas i rai sy'n arwain clybiau ar ôl ysgol, clybiau brecwast a chlybiau yn ystod gwyliau. Mae'n cynnwys Diploma Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae yn ogystal â Sgiliau Hanfodol a Dyfarniad mewn Ymwybyddiaeth o Gyflogaeth. Mae'r ddau gwrs uchod yn rhad ac am ddim ac yn addas i ddysgwyr sydd dros 18 oed. Yn ystod y cwrs, bydd gofyn i'r dysgwyr weithio tuag at ennill cymwysterau Sgiliau Hanfodol, a gyflwynir yn y dosbarth. Mae’n bosib y bydd gan rai dysgwyr gymwysterau Sgiliau Hanfodol eisoes, felly ni fydd disgwyl iddynt ailsefyll y cymwysterau hynny. Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol. O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3
Facilities
Location
Start date
Start date
About this course
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol ond mae profiad o gwaith chwarae yn ddymunol.
Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwr sy’n gallu gwneud y meini prawf QCF mewn Gwaith Chwarae.
Reviews
Subjects
- Construction
- Plastering
- Construction Training
- Skills and Training
Course programme
Cyflwyniad:
- Caiff y Diploma a'r Dyfarniad eu cyflwyno yn y gweithle
- Bydd dysgwyr yn cael eu harsylwi mewn sefyllfaoedd go iawn yn y gweithle
- Bydd disgwyl i ddysgwyr wneud aseiniadau yn waith cartref
Asesiad:
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion yn seiliedig ar ddamcaniaethau
 
Playwork Apprenticeships